Tiberius Sempronius Gracchus | |
---|---|
Ganwyd | 162 CC Rhufain |
Bu farw | 133 CC Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | offeiriad Rhufeinig, gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, quaestor, triumvir agris dandis assignandis, tribune of the plebs, legatus, Augur, legatus |
Plaid Wleidyddol | populares |
Tad | Tiberius Gracchus yr hynaf |
Mam | Cornelia Africana |
Priod | Claudia |
Plant | Sempronius Gracchus, Sempronius Gracchus, Tiberius Sempronius Gracchus |
Llinach | Sempronii Gracchi |
Gwleidydd Rhufeinig oedd Tiberius Sempronius Gracchus (163 CC-132 CC). Fel tribwn y bobl yn 133 CC. cyflwynodd fesurau radicalaidd i ail-ddosbarthu tir i dlodion Rhufain.
Ganed Tiberius yn 163 CC, yn fab i Tiberius Gracchus Major a Cornelia Africana. Roedd teulu'r Gracchi yn un cyfoethog a dylanwadol; ar ochr ei fam roedd yn ŵyr i Publius Cornelius Scipio Africanus, y cadfridog a orchfygodd Hannibal. Roedd ganddo frawd iau, Gaius Gracchus. Priododd Claudia Pulchra, ond ni fu iddynt blant.
Dechreuodd Tiberius ei yrfa filwrol yn y trydydd rhyfel yn erbyn Carthago, ar staff ei frawd-yng-nghyfraith Scipio Aemilianus. Yn 137 CC apwyntiwyd ef i swydd quaestor dan y conswl Gaius Hostilius Mancinus oedd yn ymgyrchu yn Sbaen. Gorchfygwyd byddin Mancinus, a bu raid i Tiberius wneud cytundeb heddwch a'r gelyn. Wedi iddo ddychwelyd i Rufain, perswadiodd Scipio Aemilianus y senedd i wrthod cadarnhau'r cytundeb. Dechreuodd hyn elyniaeth rhwng Tiberius a'r senedd.
Roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain yn y cyfnod yma. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu latifundia, ffernydd mawer a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.
Yn 133 CC etholwyd Tiberius yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw Lex Sempronia agraria. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 jugera (tua 310 acer, 1.3 km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr.
Golygai hyn y byddai llawer o bobl gyfoethocaf Rhufain yn colli tiroedd helaeth, a bu gwrthwynebiad ffyrnig ganddynt. Gan na chytunai'r senedd i'r mesur, aeth Tiberius at y bobl yn y Concilium Plebis, lle roedd cefnogaeth iddo. Perswadiodd y seneddwyr dribwn arall, Marcus Octavius, i geisio atal y mesur, ond taflodd Tiberius ef o'r cyfarfod, a bleidleisodd wedyn i'w ddiswyddo fel tribwn.
Pasiwyd y mesur, ond dim ond ychydig iawn o arian a roddodd y senedd i'w weithredu. Fodd bynnag, yn hwyr yn 133 CC bu farw Attalus III, brenin Pergamum, gan adael ei holl gyfoeth i Rufain. Defnyddiodd Tiberius ei swydd fel tribwn i glustnodi'r arian yma i roi ei fesur mewn gweithrediad. Cynyddodd gelyniaeth y senedd.
Yn 132 CC, cynigiodd Tiberius ei hun i'w ail-ethol fel tribwn. Ar ddiwrnod yr etholiad, ymosodwyd arno ef a'i ganlynwyr gan seneddwyr a'u cefnogwyr, a arweinid gan ei gefnder ei hun, Publius Cornelius Scipio Nasica. Lladdwyd Tiberius a rhai cannoedd o'i gefnogwyr yn yr ymladd.
Ceisiodd y senedd ymheddychu a'r bobl trwy gytuno i adael i fesurau Tiberius gael ei gweithredu. Ddeng mlynedd yn ddiweddarch, cynigiodd ei frawd, Gaius, fesurau mwy radicalaidd fyth.